Llawn dop dyn o addysg a diwylliant

Nid oes dim byd mwy naturiol mewn iaith iach cenedl iach na phobl gyffredin yn sgrifennu at ffigurau cyhoeddus yn yr iaith honno yn gofyn i gyd genedl mewn sefyllfa mwy manteisiol na nhw eu hunain am ryw wybodaeth neu’i gilydd. Câi pobol fel OM Edwards, Michael D Jones, Emrys ap Iwan, y Proffeswr Rhys ac eraill lythyrau o’r fath. Mewn ysgrif yn ei iaith ei hun i’w bobl ei hun, mae’r Celteigydd mawr, yr Athro Loth ers talwm, yn sôn am bobl yn ei holi sut rai oedd y Galiaid o ran pryd a gwedd. Ateb M. le prof oedd: Edrychwch yn y drych.

Gellid rhoi’r un ateb i’r rhai sy mor chwannog i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel Cymry Cymraeg, pan edrychan o’u cwmpas yn ddryslyd am rai i feio am y pethau a wnaethan nhw eu hunain i Gymru a’r Gymraeg o ddrwg ymyrraeth. Y bobl Gymraeg gyffredin gaiff y bai bob cynnig. Hwn yma yn beio pobol tre gyfan, tre o dan ormes  sefydliad addysg estron, ddarparodd fywiolaeth oes, nid ansylweddol, i’r Gymry Cymraeg breintiedig yma ar draul pobl Gymraeg gyffredin frodorol y lle. Gwelais erthygl gan un arall, ynfytyn iawn y tro hwn, real un, wedi gweld sôn am Eng-er-lund yn ei bapur newydd Saesneg (papurau ar gyfer y Saeson wrth reswm ydyw’r rhain – ond ” y papurau cenedlaethol” ydyw eu observers a’u telegraphs a’u expresses a’u suns i’r rhain). ‘R oedd y pen bach yma, addolwr pob peth Seisnig a Gwyddelig, yn ceisio cymhwyso at bobl Gymraeg gyffredin y dosbarth pwl israddol portreedig gan Saeson eraill o’u pobol eu hunain yn un o’u papurau newydd eu hunain fel rhai yn clertian ar hyd y llawr eu dyrnau mawr blewog yn hongian o freichiau gorilaidd mawr. Chwarae teg hefyd, er mwyn dangos pa mor llawn dop dyn o addysg a diwylliant oedd o, ac yn braw o’i anibynniaeth meddwl, ailnewidiodd eto sillafiad y ffurf wawdlyd Eng-er-lund i Ingyrlynd!

Ar Fangor

O “Recollections of Bangor Cathedral, 1857 – 1880. (1904)

by the Rev. William Hughes, Vicar of Llanuwchllyn and Rural Dean.” [Cyfieithydd sylweddol o bethau Eglwys Loegr i’r Gymraeg, a lladmerydd gwiw iddi, rhaid dweud, i’r Cymry]

Cyflwyna’r cyfaill William y llyfr hwn i’r perchennog stâd estron angyfiaith George Sholto Gordon, Lord Penrhyn y dydd, yn ddigon seimlyd, a’r awdur yn seimiwr penigamp i’r meistradoedd estron, fel y gwelir trwy ei ysgrifau, er nad ydi o wrth gwrs yn patch ar ein dosbarth dysgedig a diwylliedig ni yn yr oes yma, chwarae têg. Mae’n awdur defnyddiol, yn rhoi gwybodaeth sylweddol, berthnasol – nodweddion a ddiflannodd ar y cyfan bellach o ysgrifau Cymraeg cyhoeddus, rhaid cyfaddef.  Gresyn  na  sgrifennodd  hyn  yn  y  Gymraeg.

Dywed y cyfaill wrthym fod Deiniol Sant, ŵyr i Babo Post, a’i droed i lawr ym Mangor gyntaf ym 525 o Oed Crist, wedi ffoi o’r gyflafan ar fynachod Bangor-is-y-coed, a dyma Faelgwn Gwynedd yn dyrchafu Bangor Deiniol yn esgobaeth ym 550. Deiniol yn marw ym 584 a’i gladdu yn Ynys Enlli, Ynys yr Ugain Mil Seintiau – Rhufain Cymru i’r beirdd. Yr oedd tair pererindod i’r ynys sanctaidd hon yn gyfartal ag un i’r ddinas bellgyrch estron. Cludwyd gweddillion Dyfrig Sant, Esgob Llandaf, yma yn 522 i orwedd, ac yma hefyd y gorwedd rhai Beuno Sant. Gwelodd Gruffydd Robert o Fulan, fu’n archddiagon Môn ym 1588, cyn ffoi i’r Eidal o flaen Elisabeth y frenhines Brotestannaidd newydd, freinlen, meddai, yn donio â meddiannau mawrion y rhai elai yno yn bererinion.

Dywed y cyfaill William wrthyn ni fod yr Esgob Deane yn dechrau ailadfer y Gadeirlan o’i hadfeilion ym 1500, a pharhau wedyn o’r gwaith gan Skevyngton wedi ei farw o fel ei olynydd yng ngorsedd-fainc yr esgob. ‘R oedd wedi bod yn furddyn er pan fuasai’n rhyfel ddiwethaf – a’r gwron mawr ola, Owain Glyn Dŵr, wedi ei drechu yn 1409, y rhyfel ola posib ar ôl y deddfau cystwyol a weithredasid wedyn. Dyma Reformation ar Eglwys Loegr yn 1532 a chodi’r tŵr gorllewinol yn 1554, a llythrennau wedi eu torri yn y maen uwchben y porth yn tystio i hynny: “Thomas Skevyngton Episcopus Bangoriae …” Claddwyd corff Skevyngton yn Beaulieu, a’i galon, yn ôl ei ewyllys, o flaen y ddelw o Ddeiniol Sant, sy uwchben y porth deheuol, ac uwchben eto, ac yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain, neu o chwith i dde wrth edrych o gyfeiriad y Stryd Fawr, os deallaf yn iawn, gwelir y deuddeg ffenestr ar ffurf gwaewffyn o dri chwarel bob un ym mur corff yr eglwys. Ond nid yr un ddelw welir yno erbyn hyn, o’i chymharu â’r llun inc a welir yn llyfr y cyfaill William. Beth a gyfri am hyn? Hoffai i rywun o’r Eglwys yng Nghymru ein goleuo? Gwybodaeth ar hyn os gwelwch yn dda. Yn ôl traddodiad, defnyddiwyd meini’r hen Eglwys Fair, oedd hefyd erbyn yr adeg hynny yn furddyn, yn y gwaith newydd. Coffeir ei safle yn yr enw Erw Fair ar gymdogaeth bach o gwmpas Ffordd y Garth. Eitha posib mai o dan Ffordd y Garth y gorwedd peth o’i sylfeini o hyd.

Mae gan y cyfaill William lawer i ddweud wrth Y Deon Cotton (1780-1862), Sais, wrth gwrs, yn ôl yr “Anti-Welsh policy”, chwedl y cyfaill yn hollol ddidaro, a oedd eisoes wedi bod mewn grym ers llawer blwyddyn. Mi wnaeth hwn ei hun yn gartrefol yn ei wlad newydd, gan ddysgu’r iaith gynhenid, fel y bu raid iddo os oedd am gyrraedd y bobol. Nis meistriolodd yn ôl safon yr oes, er y buasai’r safon gyrhaeddodd yn ei osod yn yr oes yma fel Cymreigydd da. Pregethai weithiau yn iaith y wlad. Yr oedd gan Eglwys Loegr yr oes yn ei meddiant dŷ yn Tan-y-Bryn (ger Maesgeirchen heddiw) yn yr hwn y preswyliai’r Deon, ac yr oedd wedi deffro un bore Sul, a darganfod chwalfeydd pridd yn yr ardd lle bu blodau y noson cynt. Pregethodd yn Gymraeg y Sul hwnnw ar y pechod o ladrata, a dannod i’r ffliw-lleidr ei ysbail. ( rhaid i ni yn yr oes yma ‘n hatgofio’n hunain mai chwiw-leidr oedd y gair ym meddwl y cyfaill, neu y buasai perig i rai pobol golegol feddwl bod rhywun wedi dal annwyd.)

Arddelai llen gwerin Bangor gynt, medd y cyfaill, fod y gwaith cerrig ar ffurf butres, tua dwylath o uchdwr, ym mur deheuol yr eglwys, sy i’w weld o’r Stryd Fawr, ac sy’n nodi beddrod Owain Gwynedd am y mur â fo y tu mewn, mewn gwirionedd yn fedd i daniwr peryglus a gladdwyd yn fyw ar ei draed yn gosb am geisio roi hen dai siambr Penchwintan (toiau gwellt yn yr oes honno, wrth reswm) ar gwr y dre ar dân. Pen-cychwyn-tân ydyw’r ffurf gywir ar yr enw, fel y gŵyr pawb o bobl Bangor. (Joke bach, rhag ofn …) Os ydw i’n dallt yn iawn, chwintan ydyw’r ddyfais honno arferai marchogion yr Oesoedd Canol fel nod i hwylio ati fel pe baen yn ymosod ar y gelyn, er mwyn awchlymu eu medrau â gwaywffyn ar gefnau eu meirch – caen nhw eitha clec yn eu cefnau gan sachaid o dywod trwm neu rywbeth wedi clymu yn un pen i’r ddyfais o beidio â bod yn ddigon deheuig i’w osgoi) … (i’w barhau)

Ysbaid Trugarol

Mi  ddylai  pawb  sy  am  weld,  rhaid  inni  ddweud  adsefydlu  bellach  yn  hytrach  na  pharhâd  yn  dilyn  dinistr  y  blynyddoedd  diwethaf,   cenedligrwydd  Cymru   ddisgyn  ar  eu  gliniau  a  diolch  i  Dduw  am  y  rhai  yn  yr  Alban  na  fynnodd  droi  Ynys  Prydain  yn  England  and  Scotland  yn  ddiweddar.  Pe  bai’r  bleidlais  wedi  bod  fel  arall,  ni  fyddai  dim  i’w  ddisgwyl  ond  llyncu  Cymru  o’r diwedd  ben  a  thîn  gan  yr  hen  goncwerwr  o’r  Oesau  Canol.  Gweld  yr  wythnos  wedyn  Pawb  a’i  Farn,  a  phawb  yn  gyd-gytûn  braf  o  boptu’r  llywydd  fod  y  nesa  peth  i  hunan  lywodraeth  ar  y  ffordd  i  Gymru!  –  hyd  yn  oed  o  du  o  leia  un  o  Saeson  gorau’r  Cymry  Cymraeg  ymysg  gwesteion  y  ford  “drafod”-  a  hynny’n  ganmoliaeth  dra  uchel  gan  fod  cyn  gymaint  ohonyn.  Nid  y  concwerwr  ydyw’r  gelyn  bellach,  ond  hurtni  y  rhai  sy  fwya  chwannog  i   gyfeierio  atyn  nhw  eu  hunain  fel  y  Cymry  Cymraeg.

ar Fangor

Lloffion o Hanes Methodistiaeth Arfon – Dosbarth Bangor, W Hobley, Bangor (1924)

[Gan fod yr awdurdodau wedi penderfynu nad ydi Bangor i fod ddim mwy fel tref i bobl Bangor a Chymru, dichon fod rhywbeth fel hyn o ddiddordeb i rai]

‘Pont Borth ydi’r Bont ar Fenai i frodorion Bangor, erioed am wn i, a Lôn Borth y darn ffordd honno arweinia ati o’r ddinas – ffaith na fu gan osodwyr enwau lleodd Cyngor Gwynedd ddim diddordeb ynddi, mae’n amlwg. Mi wyddon ni oll am y pyllau tro cryfion o dan ac o boptu’r Bont. Naturiol i’r cyfaill Hobley feddwl am y Bont ac amdanyn nhwythau wrth feddwl am Fangor. Y ffyrnica ohonyn :

“Pwll ceris dyrys dryd,

Pwll embyd, pwll ymbyd,

Pella o’i go o’r pyllau i gyd.”

“Lloches demon” ydi Pwll Cerris yn ôl y cyfaill Hobley: “Heb ofal nid yw’n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef pan gyferfydd y ddau lanw o ddau ben y Fenai. Ei loches sydd rhwng y ddwy bont. Lle gwylia’r angel, yno llochesa’ r demon. Yn ol Swedenborg, fe gerdd yr angel drwg o dan y dwfr â’i sawdl ar y wyneb, yn wrthdroed i’r angel da oddiarnodd.”

Yr oedd ar feddwl bardd arall hefyd :

Cyrchiad mawr dyniad môr donnen ffyrnig,

Uffernol i fadau;

Ceris bwll, brith croesbwll brau,

Hallt cryg yn hollti creigiau. Gruffydd Edwards.

Cyn cynllun Telford i godi pont dros Fenai bu eisoes “ryw ymwrwst ar ymenydd Robin Ddu yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: dwy flynedd cyn Aflonydd Pont ar Fenai Fydd”, meddai. “Pa beth oedd yr Aflonydd a wŷs?”, ymhola – nis gŵyr ac ni fedr ddyfalu. Dechreuwyd y gwaith yn 1810 a’i orffen erbyn 1826. Os gwir y broffwydoliaeth, ym 1828 y digwyddodd yr Aflonydd. Traethed yr hanesydd. Dywed y cyfaill wrthym fod Cerbyd Post Caergybi yn croesi’r bont newydd sbon danlli grai ar Ionawr 30 ar ei “agoriad bythgofiadwy … a bys y gloch yn union ar bum munud ar hugain i ddau yn y prynhawn, dyna glec chwip Dafydd Dafis, gyriedydd Post Caergybi yn peri i’r march garlamu; a chwibaniad uchel y gwyntoedd, yr hir gofir amdano, sef clec chwip Angel y Fenai, yn cydateb, gan gyhoeddi cydrhyngddynt fod y fantol yn dechrau troi o blaid Dinas Bangor ac yn erbyn Prif Gaer Arfon. Oddiarnodd ac oddiuchod y penderfynir pa fodd try y chwarae. O fewn llai na dwy filltir yr oeddis oddiwrth y ddinas tra’r oedd saith oddiyno i’r brif dref. Yn y fel hyn y cysylltwyd Môn yn agosach â Bangor [na Chaernarfon] fel tref fasnach. Ar ôl hynny y dechreuodd y dylanwadau mwy ysbrydol dddylifo tua Dinas Ffawd.”

Ar y cyfan, fel y buasai’n well gan yr actor WC Fields, yn ôl ei gyffes gyhoeddus, fod yn Pittsburg na’r lle poeth arall, meiddiaf ddweud mai gwell fuasai gynnon ninnau fod yn Ninas Ffawd o hyd nag yn Bangor City of Learning o ddyfais estron a Chyngor Gwynedd.

Dyma eisteddfod Bangor yn 1832 yn cynnig gwobr am gân i’r rhyfeddod newydd. Cynigiodd Dewi Wyn y pennill a aethai wedyn yn dra hysbys, ac a barhaodd felly nes yr ysbeilid y wlad o’i Chymraeg:

Uchelgaer uwch y weilgi, gyrr y byd

Ei gerbydau drosti:

Chwithau, holl longau’r lli,

Ewch o dan ei chadwyni .

Llai poblogaidd oedd pennill Eryron Gwyllt Walia, o bosib, ond llawn cystal, os caiff un nad ydyw’n honni gwybodaeth am grefft y bardd, ond sydd, gobeithio, yn medru gwerthfawrogi ei ddawn, hawl i fynegi barn:

Mawrfri campwri pen, – bwa yn nef

Uwchben afon frigwen;

Aerwy abrwysgl ar wybren,

Cenglau wnaed yn cynghloi nen.

Heblaw ei rinweddau barddonol, mae’r pennill yn cynnig gwers yng ngeirfa goll y Gymraeg – coll, ond anhepgor serch hynny, os ydyw hi i fod yn rhagor nag iaith degan, fel y mae wedi mynd erbyn hyn o ymyrraeth pobl golegol anaddfed anghymwys : aerwy abrwysgl, cenglau yn cynghloi. Mae’r sawl gerddodd dros y bont neu a aeth drosti mewn cerbyd wedi gweld y pethau hyn yn ei gwneuthuriad . Genhedlaeth yn ddiweddarach, yn 1847, dyma’r ffordd haearn yn cyrraedd Bangor, a phont Stevenson ar ei thread erbyn 1850 i’r cledrau gael croesi’r Fenai – “Pont Frydain,” chwedl yr awdur, “oblegid dodi sylfaen un o’i cholofnau ar Graig Brytania, sef graig fechan a elwid felly.” Enw arall ar yr un bont ydyw’r Bont Haearn, wrth reswm. Ac y mae’n wir bob gair, fel y gwelir o fynd yno ac edrych. Dyfynna bennill Dafydd Ddu yn y Greal am 1792 [1805]:

Codais, ymolchais ym Môn, cyn naw

Awr ciniewa’n Nghaerlleon,

Pryd gosper yn y Werddon,

Prynhawn wrth dân mawn ym Môn.

Mae’r cyfaill Hobley yn arfer y gair “eildrem” yn hollol ddiymwybodol am weledigaeth y bardd, a mynegi’r farn mai hwn oedd gwir awdur rhai o’r dyfaliadau a briodolid, yr adeg honno beth bynnag, i Robyn Ddu [o Hiraddug] y bymthegfed ganrif. Traethed a wŷr yn amgen.

Yr oedd Bangor eisoes “ymlaen mewn gwareiddiad ac mewn crefydd”, yn ôl y cyfaill, ond nid yn ddifai chwaith. Yr oedd gwŷr Llanllechid ac Aber yn dŵad at ei gilydd ar wylmabsant a Chalan i ymladd â’i gilydd, ond nid oedd y ddinas “yn lân oddiwrth y drygau hyn.” Dyfynna o dystiolaeth Hanes Methodistiaeth Bangor Hugh Roberts, lle dywed yr awdur fod lliaws o’i thrigolion yn adrodd y weddi ganlynol deirgwaith bob nos cyn cysgu (a phwy a wâd dlysni a thynerwch ei Chatholigrwydd, nid y Methodus o Hobley, bid sicr :

Breuddwyd Mair

Mam wen Fair, wyt ti yn cysgu?

Nac wyf, f’annwyl, ‘rwy’n huno a breuddwydio.

Mam wen Fair, ai da yw dy freuddwyd?

Gweled dy ymlid a’th erlid a’th ddal, A’th roi ar y Groes, lle pur loesol,

A dyn du dall yn dy bigo â’r waewffon,

A’th archoll yn hyll a’th dwyllo. Mam wen Fair, da yw dy freuddwyd:

Y sawl a’i medro ac a’i dwedo

Deirgawaith bob nos cyn huno;

Breuddwyd drwg ni wna niwed iddo;

A thir uffern byth nis cerddo.

Yn enw Duw, i’m gwely’r af’

Duw a fo’n feddyg i’r iach ac i’r claf;

Mi orweddaf ar fy hyd;

Duw, derbyn f’enaid pan elwyf o’r byd

Duw yn y ffenestr, Duw yn y drws,

Duw ym mhob man lle rhoddwyf fy mhwys;duw uwchben y tŷ a’r teulu,

Fel y gallwyf yn ddienbyd gysgu.

Sonia’r cyfaill wedyn, yn ddiddorol iawn, am yr hen gaer : ar ben y

Penmaenmawr … (i’w barhau?)

perchnogion newydd Bangor

Gwelaf  fod  stamp  perchnogaeth  newydd  y  ddinas  yn  dwwad  yn  ei   blaen  yn  ardderchog.  Bydd  wedi  cwplhau  yn  ddigon  buan,   a  Scotland  wedi  pleidleisio  i  un  ai  dwyn  i  ben  ei   hen  gyfamod  aa  Lloegr  neu  beidio (waeth  be  fo  llais  y  referendum,  bydd  hyn  yn  digwydd )  a  chytuno  ar  gyfamod  newydd  wedyn  rhwng  y  ddwy  blaid,  fel  sy  reolaidd  mewn  cytundebau,  ac   yn  y  cyfamser  mi   fydd  y  Stamp  wedi  ffrancio  Bangor  yn  sownd  yn  eiddo’r  brifysgol  newydd  hollol  estron,  (ond  a  oedd  yn  arfer  bod  yn  goleg  yn  perthyn  i  Brifysgol  Cymru,  meddan  i  mi,  cyn  y  gwnaed  i  ffwrdd   aa  honno  hefyd  fel  sefydliad  yn  honni  rhyw  berthynas  ddilys  aa’r  wlad  yma.  Da  iawn  chwi,  hen  fechgyn  pwysig  y  colegau  a’ch  ffon  ddwybig  hollbresennol)  –  O!  soon  am  dwyll  a  brad).  Fel  y  gwasga  Lloegr  Wales,  annexiwyd  ganddi  yn  niwedd  yr  oesoedd  canol,  yn  nes-nes,  ac  yn  dynnach-dynnach  ati  mewn  gafael  haearn  Sbaen,  caiff  brodorion  Scotland  the  Brave  ymfalchio  yn  ei  sefyllfa   fel  un  o  genhedloedd  llywodraethau  newydd  y  byd,  a  hunan-benderfyniad  yn  eu  cyrraedd.   Cawn  ninnau,  frodorion  Bangor  o  leia,  ymffrostio  yn  y  wybodaeth  y  dewisodd  bechgyn  Plaid  lladd  Cymru  Cyngor  Gwynedd  ein  dinas  enedigol  bach  ddistadl  ni  i’w  throsglwyddo,  yn  lock , stock  and  barrel,  i  feddiant  prifysgol  newydd  sbond  danlli  sbaar  Lloegr  a’r  byd  yn  Nghymru,  i  wneud  fel  y  mynnont  aa  hi.  Clywais  un  ohonyn  yn  soon  wrth  un  arall,  diweddarach  ei  ymsefydliad  yma,  am  Fangor  fel  “blanc  canvas”  ar  eu  cyfer  –  chwarae  teg  i  Gyngor  Gwynedd  (  dyna  be  ddeudodd  o,  ond  fod  o’n  meddwl  mai  rhyw  gyngor  o’r  enw  Gwinith  oedd  yn  gwneud  anrheg  o  dre’r  Bangoriaid  iddo  fo  a’i  bals!  Pan  gyhoeddwyd  chydig  yn  ool  basio  swm  mawr  arall  –  dros  300  y  tro  hwn  –   o  drigleoedd  ar  gyfer  chwaneg  byth  o  efrydwyr   o  Loegria  a  thramor,  hysbysodd  ein  papur  racs   inni  fod  un  aelod  o  Blaid  lladd  Cymru  yn  “absolutely  delighted.”  (Dywedodd  rhywun  wrthyf  ei  fod  o  wedi  dawnsio  jig  hefyd  gan  mor  hapus  ydoedd,  ond  ‘d  ydw  i  ddim  yn  coelio  hynny  yn  bersonol.)  Sgotland  druan!