Author Archives: cyfrodedd
Continuing apace : the dismantling of our nation and the snuffing out of our aspirations by public and private bodies established here, controlled by English settlers here often with their unnatural Welsh-born worshippers as their ridiculous lieutenants and apologists/justifiers. Their insulting “National” park authorities, their “National Trust” here, their Cadw here, utility companies, transport companies, etc. operating here as if they were operating in England, councils such as Gwynedd in the north pro actively un-Welshing what remains, and Welsh-elected MPs and AMs saying and doing nothing. They are actually in on it. The renaming of the nationally important and defining second bridge over the Severn after an English royal freeloader detested by all our people, but fawned over by the junior lesser-graded freeloaders and simple-minded is just the latest outrage.
The Enablers
Continuing apace : the dismantling of our nation and the snuffing out of our aspirations by public and private bodies established here, controlled by English settlers here often with their unnatural Welsh-born worshippers as their ridiculous lieutenants and apologists/justifiers. Their insulting “National” park authorities, their “National Trust” here, their Cadw here, utility companies, transport companies, etc., operating here as if they were operating in England, Broadcasting, the BBC (now long including the hijacked S4C), in its own tongue as well as it’s Welsh service, the traditional “independant” crowd, plus the more recent outfits, the Internet : ditto, all legitimate enterprises – if they were operations limited to England and Scotland (the United Kingdom), , councils such as Gwynedd in the north proactively un-Welshing what remains, and Welsh-elected MPs and AMs saying and doing nothing. There’s now no denying it : these are Enablers – there’s no two ways. The occasional muttered “Gwarthus!” or similar from one or more of them doesn’t pay for their vote. The renaming of the nationally important and defining second bridge over the Severn after an English royal freeloader detested by all our thinking people, but fawned over by the junior lesser-graded freeloaders and simple-minded is just the latest outrage in a long line. Let’s remember that nobody can really love a Quisling – not even another Quisling.
ANTIGONE Racine, [Décor didramgwydd (neutral).] Ar gyfodiad y llen y mae pob cymeriad ar y banllaw (llwyfan). Siaradan, gweuan, chwaraean gardiau. Mae’r Prolog/Traethydd yn ymwahannu oddi wrthyn ac yn dyfod yn ei flaen at y cynulliad. Y Prolog: Dyma ni. Mae’r cymeriadau hynyma yn mynd i chwarae ichwi stori Antigone. Antigone ydyw honno sy yn eistedd i lawr yn ’fanna, ac ni ddywed dim. Edrych yn syth yn ei blaen. Meddylia. Mae’n meddwl ei bod yn mynd i chwarae Antigone trwy’r amser, bod hi’n mynd i ymddangos yn fwya sydyn, yn ferch ifanc denau. lwytaidd a swil, nad ydyw neb o’r teulu yn ei chymeryd o ddifri, ac sy’n sefyll ar ei phen ei hun yn erbyn y byd, a hi yn unig yn erbyn Creon ei hewyrth, y brenin. Antigone : Deall! ‘D oes gennych ddim namyn y gair hwnnw yn eich genau, bob un ohonoch chwi, er pan wyf fechan. ’R oedd raid deall nad oeddid i gyffwr a’r dwfr hardd rhedegog oer, am fod hwnnw yn gwlychu’r llechau, nac â’r pridd, am fod hwnnw yn maeddu’r wisg. ’R oedd raid deall nad oeddid i fwyta’r cwbl ar unwaith; rhoi’r cwbl sy gan un yn ei logell ar gyfer rhyw gardotyn y gellid taro wrtho. Rhedeg, rhedeg yn y gwynt nes disgyn i’r ddaear ac yfed pan ddeuai gwres, ac nid pan yn ei flysio, nac ymfeisio yn rhy fuan nac yn rhy hwyr, nid pan ddymuner. Deall! Deall yn wastadol. Myfi, ni fynnaf ddeall. Deallaf pan wyf hen. [Ymfwyneiddia] Os elwyf yn hen. Nid yrwan. … Ismene : Ni allaf gysgu. Y mae arnaf ofn yr ei di allan a cheisio ei gladdu er cynhared y dydd. Antigone, fy chwaer fach, yr ydyn ni oll yma o’th gwmpas – Hemon, Famaeth a finnau, a Pher dy ast fach … . Carwn di, ac yr ydyn fyw. Y mae arnon ni dy angen di, nyni. Y mae Polynices yn farw, ac nid ydyw yn dy garu. Bu yn wastadol yn ddieithryn inni, yn frawd drwg. Anghofia fo, Antigone, fel yr anghofiason ni yfo. Gad i’w gysgod caled grwydro hyd Dragwyddoldeb, heb garreg fedd iddo, canys dyna ddeddfiad Creon. Na heria yr hyn sy uwch dy alluoedd. Buost yn wastadol yn ddewr, ond yr wyt ti mor fechan, Antigone. Aros gyda ni. Na ddos yna heno, ymbiliaf arnat … … Y Famaeth : Fy ngwawdio yr wyt, felly? Gwyddost fy mod yn rhy hen. Tydi fu’r ddewisaf gennyf, er gwaethaf dy anian salw. Yr oedd dy chwaer yn fwynach, ond credwn mai tydi a’m carai. Os ceri fi, dylet ddweud y gwir wrthyf. Pam oedd dy wely yn oer pan ddeuthum i rhoi’r cwrlid drosot? … [Creon allan yn holi gwarchawdr] … Creon : … Da iawn. Traetha. Beth sy arnat ei ofn? Y Gwarchawdr : Yn ôl y rheolau fe ddylsid bod y dosbarth cynta. Yr wyf finnau wedi cael dosbarth cynta, ond nid wyf eto wedi fy nyrchafu. Dylwn gael fy nyrchafu erbyn mis Mehefin. Creon : Wyt ti yn mynd i siarad o’r diwedd? Os oes rhywbeth wedi digwydd, yna ’r ydych i gyd yn gyfrifol. Na ddyfala ddim mwy ynghylch pwy ddylai fod yma. Y Gwarchawdr : O’r gorau. Dyna ni, Arglwydd. Y gelain, fe’i gwylir eto! … y Wylfa Ddwy, y wytna … Creon [wedi synnu wrth a wêl] : Rhyddhewch y ferch ifanc yma! Beth ydyw hyn? Y Gwarchawdr : Y Warchodfa, Arglwydd Bennaeth. Deuthum gyda’r cymrodyr. Creon : Pwy werchyd y corff? Y Gwarchawdr : Galwyd am y Gollwng, Bennaeth. Creon : Dywedais wrthyt i’w gyrru hi’n ôl. Dywedais wrthyt i ddweud dim. Y Gwrachawdr : Ni ddywedais ddim, Arglwydd Bennaeth, ond pan atelid hon yma, meddylid y byddai angen i rywun ddyfod – ac ni thynnid am y cwta y tro yma, dewisid dyfod ni’n trioedd. Creon : Ynfytiaid!
ar Fangor – hanes coll
Lloffion o Hanes Methodistiaeth Arfon – Dosbarth Bangor, W Hobley, Bangor (1924)
[Gan fod yr awdurdodau wedi penderfynu nad ydi Bangor i fod ddim mwy fel tref i bobl Bangor a Chymru, dichon fod rhywbeth fel hyn o ddiddordeb i rai]
Pont Borth ydi’r Bont ar Fenai i frodorion Bangor, erioed am wn i, a Lôn Borth y darn ffordd honno arweinia ati o’r ddinas – ffaith na fu gan osodwyr enwau lleodd Cyngor Gwynedd ddim diddordeb ynddi, mae’n amlwg. Mi wyddon ni oll am y pyllau tro cryfion o dan ac o boptu’r Bont. Naturiol i’r cyfaill Hobley feddwl am y Bont ac amdanyn nhwythau wrth feddwl am Fangor. Y ffyrnica ohonyn :
“Pwll ceris dyrys dryd,
Pwll embyd, pwll ymbyd,
Pella o’i go o’r pyllau i gyd.”
“Lloches demon” ydi Pwll Cerris yn ôl y cyfaill Hobley: “Heb ofal nid yw’n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef…
View original post 915 more words
Ysbaid Trugarol
GWASTRAFFWYD Y CYFLE OLA, CYFLE “YR YSBAID TRUGAROL,” PAN BLEIDLEISIODD Y CYMRY CYMRAEG DROS LOEGR YN LLE CYMRU YN YR ETHOLIAD CYFFREDINOL DIWEDDAR. DO? Mi ddylai pawb sy am weld, rhaid inni ddweud adsefydlu bellach yn hytrach na pharhâd yn dilyn dinistr y blynyddoedd diwethaf, cenedligrwydd Cymru ddisgyn ar eu gliniau a diolch i Dduw am y rhai yn yr Alban na fynnodd droi Ynys Prydain yn England and Scotland yn ddiweddar. Pe bai’r bleidlais wedi bod fel arall, ni fyddai dim i’w ddisgwyl ond llyncu Cymru o’r diwedd ben a thîn gan yr hen goncwerwr o’r Oesau Canol. Gweld yr wythnos wedyn Pawb a’i Farn, a phawb yn gyd-gytûn braf o boptu’r llywydd fod y nesa peth i hunan lywodraeth ar y ffordd i Gymru! – hyd yn oed o du o leia un o Saeson gorau’r Cymry Cymraeg ymysg gwesteion y ford “drafod”- a hynny’n ganmoliaeth dra uchel gan fod cyn gymaint ohonyn. Nid y concwerwr ydyw’r gelyn bellach, ond hurtni y rhai sy fwya chwannog i gyfeierio atyn nhw eu hunain fel y Cymry Cymraeg.
ar Fangor – hanes coll
Lloffion o Hanes Methodistiaeth Arfon – Dosbarth Bangor, W Hobley, Bangor (1924)
[Gan fod yr awdurdodau wedi penderfynu nad ydi Bangor i fod ddim mwy fel tref i bobl Bangor a Chymru, dichon fod rhywbeth fel hyn o ddiddordeb i rai]
Pont Borth ydi’r Bont ar Fenai i frodorion Bangor, erioed am wn i, a Lôn Borth y darn ffordd honno arweinia ati o’r ddinas – ffaith na fu gan osodwyr enwau lleodd Cyngor Gwynedd ddim diddordeb ynddi, mae’n amlwg. Mi wyddon ni oll am y pyllau tro cryfion o dan ac o boptu’r Bont. Naturiol i’r cyfaill Hobley feddwl am y Bont ac amdanyn nhwythau wrth feddwl am Fangor. Y ffyrnica ohonyn :
“Pwll ceris dyrys dryd,
Pwll embyd, pwll ymbyd,
Pella o’i go o’r pyllau i gyd.”
“Lloches demon” ydi Pwll Cerris yn ôl y cyfaill Hobley: “Heb ofal nid yw’n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef pan gyferfydd y ddau lanw o ddau ben y Fenai. Ei loches sydd rhwng y ddwy bont. Lle gwylia’r angel, yno llochesa’ r demon. Yn ol Swedenborg, fe gerdd yr angel drwg o dan y dwfr â’i sawdl ar y wyneb, yn wrthdroed i’r angel da oddiarnodd.”
Yr oedd ar feddwl bardd arall hefyd :
Cyrchiad mawr dyniad môr donnen ffyrnig,
Uffernol i fadau;
Ceris bwll, brith croesbwll brau,
Hallt cryg yn hollti creigiau. Gruffydd Edwards.
Cyn cynllun Telford i godi pont dros Fenai bu eisoes “ryw ymwrwst ar ymenydd Robin Ddu yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: dwy flynedd cyn Aflonydd Pont ar Fenai Fydd”, meddai. “Pa beth oedd yr Aflonydd a wŷs?”, ymhola – nis gŵyr ac ni fedr ddyfalu. Dechreuwyd y gwaith yn 1810 a’i orffen erbyn 1826. Os gwir y broffwydoliaeth, ym 1828 y digwyddodd yr Aflonydd. Traethed yr hanesydd. Dywed y cyfaill wrthym fod Cerbyd Post Caergybi yn croesi’r bont newydd sbon danlli grai ar Ionawr 30 ar ei “agoriad bythgofiadwy … a bys y gloch yn union ar bum munud ar hugain i ddau yn y prynhawn, dyna glec chwip Dafydd Dafis, gyriedydd Post Caergybi yn peri i’r march garlamu; a chwibaniad uchel y gwyntoedd, yr hir gofir amdano, sef clec chwip Angel y Fenai, yn cydateb, gan gyhoeddi cydrhyngddynt fod y fantol yn dechrau troi o blaid Dinas Bangor ac yn erbyn Prif Gaer Arfon. Oddiarnodd ac oddiuchod y penderfynir pa fodd try y chwarae. O fewn llai na dwy filltir yr oeddis oddiwrth y ddinas tra’r oedd saith oddiyno i’r brif dref. Yn y fel hyn y cysylltwyd Môn yn agosach â Bangor [na Chaernarfon] fel tref fasnach. Ar ôl hynny y dechreuodd y dylanwadau mwy ysbrydol dddylifo tua Dinas Ffawd.”
Ar y cyfan, fel y buasai’n well gan yr actor WC Fields, yn ôl ei gyffes gyhoeddus, fod yn Pittsburg na’r lle poeth arall, meiddiaf ddweud mai gwell fuasai gynnon ninnau fod yn Ninas Ffawd o hyd nag yn Bangor City of Learning o ddyfais estron a Chyngor Gwynedd.
Dyma eisteddfod Bangor yn 1832 yn cynnig gwobr am gân i’r rhyfeddod newydd. Cynigiodd Dewi Wyn y pennill a aethai wedyn yn dra hysbys, ac a barhaodd felly nes yr ysbeilid y wlad o’i Chymraeg:
Uchelgaer uwch y weilgi, gyrr y byd
Ei gerbydau drosti:
Chwithau, holl longau’r lli,
Ewch o dan ei chadwyni .
Llai poblogaidd oedd pennill Eryron Gwyllt Walia, o bosib, ond llawn cystal, os caiff un nad ydyw’n honni gwybodaeth am grefft y bardd, ond sydd, gobeithio, yn medru gwerthfawrogi ei ddawn, hawl i fynegi barn:
Mawrfri campwri pen, – bwa yn nef
Uwchben afon frigwen;
Aerwy abrwysgl ar wybren,
Cenglau wnaed yn cynghloi nen.
Heblaw ei rinweddau barddonol, mae’r pennill yn cynnig gwers yng ngeirfa goll y Gymraeg – coll, ond anhepgor serch hynny, os ydyw hi i fod yn rhagor nag iaith degan, fel y mae wedi mynd erbyn hyn o ymyrraeth pobl golegol anaddfed anghymwys : aerwy abrwysgl, cenglau yn cynghloi. Mae’r sawl gerddodd dros y bont neu a aeth drosti mewn cerbyd wedi gweld y pethau hyn yn ei gwneuthuriad . Genhedlaeth yn ddiweddarach, yn 1847, dyma’r ffordd haearn yn cyrraedd Bangor, a phont Stevenson ar ei thread erbyn 1850 i’r cledrau gael croesi’r Fenai – “Pont Frydain,” chwedl yr awdur, “oblegid dodi sylfaen un o’i cholofnau ar Graig Brytania, sef graig fechan a elwid felly.” Enw arall ar yr un bont ydyw’r Bont Haearn, wrth reswm. Ac y mae’n wir bob gair, fel y gwelir o fynd yno ac edrych. Dyfynna bennill Dafydd Ddu yn y Greal am 1792 [1805]:
Codais, ymolchais ym Môn, cyn naw
Awr ciniewa’n Nghaerlleon,
Pryd gosper yn y Werddon,
Prynhawn wrth dân mawn ym Môn.
Mae’r cyfaill Hobley yn arfer y gair “eildrem” yn hollol ddiymwybodol am weledigaeth y bardd, a mynegi’r farn mai hwn oedd gwir awdur rhai o’r dyfaliadau a briodolid, yr adeg honno beth bynnag, i Robyn Ddu [o Hiraddug] y bymthegfed ganrif. Traethed a wŷr yn amgen.
Yr oedd Bangor eisoes “ymlaen mewn gwareiddiad ac mewn crefydd”, yn ôl y cyfaill, ond nid yn ddifai chwaith. Yr oedd gwŷr Llanllechid ac Aber yn dŵad at ei gilydd ar wylmabsant a Chalan i ymladd â’i gilydd, ond nid oedd y ddinas “yn lân oddiwrth y drygau hyn.” Dyfynna o dystiolaeth Hanes Methodistiaeth Bangor Hugh Roberts, lle dywed yr awdur fod lliaws o’i thrigolion yn adrodd y weddi ganlynol deirgwaith bob nos cyn cysgu (a phwy a wâd dlysni a thynerwch ei Chatholigrwydd, nid y Methodus o Hobley, bid sicr :
Breuddwyd Mair
Mam wen Fair, wyt ti yn cysgu?
Nac wyf, f’annwyl, ‘rwy’n huno a breuddwydio.
Mam wen Fair, ai da yw dy freuddwyd?
Gweled dy ymlid a’th erlid a’th ddal, A’th roi ar y Groes, lle pur loesol,
A dyn du dall yn dy bigo â’r waewffon,
A’th archoll yn hyll a’th dwyllo. Mam wen Fair, da yw dy freuddwyd:
Y sawl a’i medro ac a’i dwedo
Deirgawaith bob nos cyn huno;
Breuddwyd drwg ni wna niwed iddo;
A thir uffern byth nis cerddo.
Yn enw Duw, i’m gwely’r af’
Duw a fo’n feddyg i’r iach ac i’r claf;
Mi orweddaf ar fy hyd;
Duw, derbyn f’enaid pan elwyf o’r byd
Duw yn y ffenestr, Duw yn y drws,
Duw ym mhob man lle rhoddwyf fy mhwys;duw uwchben y tŷ a’r teulu,
Fel y gallwyf yn ddienbyd gysgu.
Sonia’r cyfaill wedyn, yn ddiddorol iawn, am yr hen gaer : ar ben y
Penmaenmawr … (i’w barhau?)
Llawn dop dyn o addysg a diwylliant
Beier ni’r bobol gymraeg gyffredin
‘D oes dim byd mwy naturiol mewn iaith iach cenedl iach na phobl gyffredin yn sgrifennu at ffigurau cyhoeddus yn yr iaith honno yn gofyn i gyd genedl mewn sefyllfa mwy manteisiol na nhw eu hunain am ryw wybodaeth neu’i gilydd. Câi pobol fel OM Edwards, Michael D Jones, Emrys ap Iwan, y Proffeswr Rhys ac eraill lythyrau o’r fath. Mewn ysgrif yn ei iaith ei hun i’w bobl ei hyn, mae’r Celteigydd mawr, yr Athro Loth ers talwm, yn sôn am bobl yn ei holi sut rai oedd y Galiaid o ran pryd a gwedd. Ateb M. le prof oedd: Edrychwch yn y drych.
Gellid rhoi’r un ateb i’r rhai sy mor chwannog i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel Cymry Cymraeg, pan edrychan o’u cwmpas yn ddryslyd am rai i feio am y pethau a wnaethan nhw eu hunain i Gymru a’r Gymraeg o ddrwg ymyrraeth. Y bobl…
View original post 175 more words
Beier ni’r bobol gymraeg gyffredin
‘D oes dim byd mwy naturiol mewn iaith iach cenedl iach na phobl gyffredin yn sgrifennu at ffigurau cyhoeddus yn yr iaith honno yn gofyn i gyd genedl mewn sefyllfa mwy manteisiol na nhw eu hunain am ryw wybodaeth neu’i gilydd. Câi pobol fel OM Edwards, Michael D Jones, Emrys ap Iwan, y Proffeswr Rhys ac eraill lythyrau o’r fath. Mewn ysgrif yn ei iaith ei hun i’w bobl ei hyn, mae’r Celteigydd mawr, yr Athro Loth ers talwm, yn sôn am bobl yn ei holi sut rai oedd y Galiaid o ran pryd a gwedd. Ateb M. le prof oedd: Edrychwch yn y drych.
Gellid rhoi’r un ateb i’r rhai sy mor chwannog i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel Cymry Cymraeg, pan edrychan o’u cwmpas yn ddryslyd am rai i feio am y pethau a wnaethan nhw eu hunain i Gymru a’r Gymraeg o ddrwg ymyrraeth. Y bobl Gymraeg gyffredin gaiff y bai bob cynnig. Hwn yma yn beio pobol tre gyfan, tre o dan ormes ” sefydliad addysg” estron, ddarparod fywiolaeth oes, nid ansylweddol, i’r Gymry Cymraeg breintiedig ar draul pobl Gymraeg gyffredin frodorol y lle. Gwelais erthygl gan un arall, ynfytyn iawn y tro hwn, real un, wedi gweld sôn am Eng-er-lund yn ei bapur newydd Saesneg (papurau ar gyfer y Saeson wrth reswm ydyw’r rhain – ond ” y papurau cenedlaethol” ydyw eu observers a’u telegraphs a’u expresses a’u suns i’r rhain). ‘R oedd y pen bach yma, addolwr pob peth Seisnig a Gwyddelig, yn ceisio cymhwyso at bobl Gymraeg gyffredin y dosbarth pwl israddol portreedig gan Saeson eraill o’u pobol eu hunain yn un o’u papurau newydd eu hunain fel rhai yn clertian ar hyd y llawr eu dyrnau mawr blewog yn hongian o freichiau mwncwnaidd mawr. Chwarae teg hefyd, er mwyn dangos pa mor llawn dop dyn o addysg a diwylliant oedd o, ac yn braw o’i anibynniaeth meddwl, ailnewidiodd eto sillafiad y ffurf wawdlyd Eng-er-lund i Ingyrlynd!