Ar Fangor

O “Recollections of Bangor Cathedral, 1857 – 1880. (1904)

by the Rev. William Hughes, Vicar of Llanuwchllyn and Rural Dean.” [Cyfieithydd sylweddol o bethau Eglwys Loegr i’r Gymraeg, a lladmerydd gwiw iddi, rhaid dweud, i’r Cymry]

Cyflwyna’r cyfaill William y llyfr hwn i’r perchennog stâd estron angyfiaith George Sholto Gordon, Lord Penrhyn y dydd, yn ddigon seimlyd, a’r awdur yn seimiwr penigamp i’r meistradoedd estron, fel y gwelir trwy ei ysgrifau, er nad ydi o wrth gwrs yn patch ar ein dosbarth dysgedig a diwylliedig ni yn yr oes yma, chwarae têg. Mae’n awdur defnyddiol, yn rhoi gwybodaeth sylweddol, berthnasol – nodweddion a ddiflannodd ar y cyfan bellach o ysgrifau Cymraeg cyhoeddus, rhaid cyfaddef.  Gresyn  na  sgrifennodd  hyn  yn  y  Gymraeg.

Dywed y cyfaill wrthym fod Deiniol Sant, ŵyr i Babo Post, a’i droed i lawr ym Mangor gyntaf ym 525 o Oed Crist, wedi ffoi o’r gyflafan ar fynachod Bangor-is-y-coed, a dyma Faelgwn Gwynedd yn dyrchafu Bangor Deiniol yn esgobaeth ym 550. Deiniol yn marw ym 584 a’i gladdu yn Ynys Enlli, Ynys yr Ugain Mil Seintiau – Rhufain Cymru i’r beirdd. Yr oedd tair pererindod i’r ynys sanctaidd hon yn gyfartal ag un i’r ddinas bellgyrch estron. Cludwyd gweddillion Dyfrig Sant, Esgob Llandaf, yma yn 522 i orwedd, ac yma hefyd y gorwedd rhai Beuno Sant. Gwelodd Gruffydd Robert o Fulan, fu’n archddiagon Môn ym 1588, cyn ffoi i’r Eidal o flaen Elisabeth y frenhines Brotestannaidd newydd, freinlen, meddai, yn donio â meddiannau mawrion y rhai elai yno yn bererinion.

Dywed y cyfaill William wrthyn ni fod yr Esgob Deane yn dechrau ailadfer y Gadeirlan o’i hadfeilion ym 1500, a pharhau wedyn o’r gwaith gan Skevyngton wedi ei farw o fel ei olynydd yng ngorsedd-fainc yr esgob. ‘R oedd wedi bod yn furddyn er pan fuasai’n rhyfel ddiwethaf – a’r gwron mawr ola, Owain Glyn Dŵr, wedi ei drechu yn 1409, y rhyfel ola posib ar ôl y deddfau cystwyol a weithredasid wedyn. Dyma Reformation ar Eglwys Loegr yn 1532 a chodi’r tŵr gorllewinol yn 1554, a llythrennau wedi eu torri yn y maen uwchben y porth yn tystio i hynny: “Thomas Skevyngton Episcopus Bangoriae …” Claddwyd corff Skevyngton yn Beaulieu, a’i galon, yn ôl ei ewyllys, o flaen y ddelw o Ddeiniol Sant, sy uwchben y porth deheuol, ac uwchben eto, ac yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain, neu o chwith i dde wrth edrych o gyfeiriad y Stryd Fawr, os deallaf yn iawn, gwelir y deuddeg ffenestr ar ffurf gwaewffyn o dri chwarel bob un ym mur corff yr eglwys. Ond nid yr un ddelw welir yno erbyn hyn, o’i chymharu â’r llun inc a welir yn llyfr y cyfaill William. Beth a gyfri am hyn? Hoffai i rywun o’r Eglwys yng Nghymru ein goleuo? Gwybodaeth ar hyn os gwelwch yn dda. Yn ôl traddodiad, defnyddiwyd meini’r hen Eglwys Fair, oedd hefyd erbyn yr adeg hynny yn furddyn, yn y gwaith newydd. Coffeir ei safle yn yr enw Erw Fair ar gymdogaeth bach o gwmpas Ffordd y Garth. Eitha posib mai o dan Ffordd y Garth y gorwedd peth o’i sylfeini o hyd.

Mae gan y cyfaill William lawer i ddweud wrth Y Deon Cotton (1780-1862), Sais, wrth gwrs, yn ôl yr “Anti-Welsh policy”, chwedl y cyfaill yn hollol ddidaro, a oedd eisoes wedi bod mewn grym ers llawer blwyddyn. Mi wnaeth hwn ei hun yn gartrefol yn ei wlad newydd, gan ddysgu’r iaith gynhenid, fel y bu raid iddo os oedd am gyrraedd y bobol. Nis meistriolodd yn ôl safon yr oes, er y buasai’r safon gyrhaeddodd yn ei osod yn yr oes yma fel Cymreigydd da. Pregethai weithiau yn iaith y wlad. Yr oedd gan Eglwys Loegr yr oes yn ei meddiant dŷ yn Tan-y-Bryn (ger Maesgeirchen heddiw) yn yr hwn y preswyliai’r Deon, ac yr oedd wedi deffro un bore Sul, a darganfod chwalfeydd pridd yn yr ardd lle bu blodau y noson cynt. Pregethodd yn Gymraeg y Sul hwnnw ar y pechod o ladrata, a dannod i’r ffliw-lleidr ei ysbail. ( rhaid i ni yn yr oes yma ‘n hatgofio’n hunain mai chwiw-leidr oedd y gair ym meddwl y cyfaill, neu y buasai perig i rai pobol golegol feddwl bod rhywun wedi dal annwyd.)

Arddelai llen gwerin Bangor gynt, medd y cyfaill, fod y gwaith cerrig ar ffurf butres, tua dwylath o uchdwr, ym mur deheuol yr eglwys, sy i’w weld o’r Stryd Fawr, ac sy’n nodi beddrod Owain Gwynedd am y mur â fo y tu mewn, mewn gwirionedd yn fedd i daniwr peryglus a gladdwyd yn fyw ar ei draed yn gosb am geisio roi hen dai siambr Penchwintan (toiau gwellt yn yr oes honno, wrth reswm) ar gwr y dre ar dân. Pen-cychwyn-tân ydyw’r ffurf gywir ar yr enw, fel y gŵyr pawb o bobl Bangor. (Joke bach, rhag ofn …) Os ydw i’n dallt yn iawn, chwintan ydyw’r ddyfais honno arferai marchogion yr Oesoedd Canol fel nod i hwylio ati fel pe baen yn ymosod ar y gelyn, er mwyn awchlymu eu medrau â gwaywffyn ar gefnau eu meirch – caen nhw eitha clec yn eu cefnau gan sachaid o dywod trwm neu rywbeth wedi clymu yn un pen i’r ddyfais o beidio â bod yn ddigon deheuig i’w osgoi) … (i’w barhau)

Leave a comment