Pennau Bach and other Imbeciles – [In response to an individual Welsh-American’s challenge to the legal status of the mediaeval annexation of this country ] Who exactly are the scoffers and deriders ? – Apart from the blatant annexeers, of course. Challenges should have been mounted years ago – by Plaid, which has been mandated to do so for many years and has no shortage of barristers licenced at the English Bar. (One Plaid “reresentative” passed on the golden goose to another sitting tenant at the last GE and returned full-time to his “day job” as he jovially put it in a Welsh interview). The English annexeer is a natural creature, who can be well understood under the circumstances, even respected. The Cymric scoffer, on the other hand is another kettle of fish. He may well invent reasons against, based on what his Master taught him, of course, or repeat his Master’s derogatory words, often turned into his own version of Welsh. “The Law” to this most unnatural of creatures is synonymous with English law. A great man once said, ” Y mae’r rhain yn meddwl bod ‘Dywed yr Arglwydd’ yn gyfystyr â’r Sais yn dywedyd, ‘I say!’ ” The translation of that quote into English : They think that when the Englishman says, ‘I say!’ that that means the same as, “Thus sayeth the Lord.” Pob dyledus barch i Llywelyn yn Ffrainc.

Advertisements

Continuing apace : the dismantling of our nation and the snuffing out of our aspirations by public and private bodies established here, controlled by English settlers here often with their unnatural Welsh-born worshippers as their ridiculous lieutenants and apologists/justifiers. Their insulting “National” park authorities, their “National Trust” here, their Cadw here, utility companies, transport companies, etc. operating here as if they were operating in England, councils such as Gwynedd in the north pro actively un-Welshing what remains, and Welsh-elected MPs and AMs saying and doing nothing. They are actually in on it. The renaming of the nationally important and defining second bridge over the Severn after an English royal freeloader detested by all our people, but fawned over by the junior lesser-graded freeloaders and simple-minded is just the latest outrage.

The Enablers

Continuing apace : the dismantling of our nation and the snuffing out of our aspirations by public and private bodies established here, controlled by English settlers here often with their unnatural Welsh-born worshippers as their ridiculous lieutenants and apologists/justifiers. Their insulting “National” park authorities, their “National Trust” here, their Cadw here, utility companies, transport companies, etc., operating here as if they were operating in England, Broadcasting,  the  BBC  (now  long  including  the  hijacked  S4C),  in  its  own  tongue  as  well  as  it’s  Welsh  service,  the  traditional  “independant”  crowd,  plus  the  more  recent  outfits,  the  Internet  :  ditto,  all  legitimate  enterprises  –  if  they  were  operations  limited to  England  and  Scotland  (the  United  Kingdom), ,  councils such as Gwynedd in the north proactively un-Welshing what remains, and Welsh-elected MPs and AMs saying and doing nothing.  There’s now  no  denying  it  :  these  are  Enablers  – there’s  no  two  ways.   The  occasional  muttered  “Gwarthus!”  or  similar  from  one  or  more  of  them  doesn’t  pay  for  their  vote.  The renaming of the nationally important and defining second bridge over the Severn after an English royal freeloader detested by all our thinking  people, but fawned over by the junior lesser-graded freeloaders and simple-minded is just the latest outrage  in  a  long  line.  Let’s  remember  that  nobody  can  really  love  a  Quisling  –  not  even  another  Quisling.

ANTIGONE Racine, [Décor didramgwydd (neutral).] Ar gyfodiad y llen y mae pob cymeriad ar y banllaw (llwyfan). Siaradan, gweuan, chwaraean gardiau. Mae’r Prolog/Traethydd yn ymwahannu oddi wrthyn ac yn dyfod yn ei flaen at y cynulliad. Y Prolog: Dyma ni. Mae’r cymeriadau hynyma yn mynd i chwarae ichwi stori Antigone. Antigone ydyw honno sy yn eistedd i lawr yn ’fanna, ac ni ddywed dim. Edrych yn syth yn ei blaen. Meddylia. Mae’n meddwl ei bod yn mynd i chwarae Antigone trwy’r amser, bod hi’n mynd i ymddangos yn fwya sydyn, yn ferch ifanc denau. lwytaidd a swil, nad ydyw neb o’r teulu yn ei chymeryd o ddifri, ac sy’n sefyll ar ei phen ei hun yn erbyn y byd, a hi yn unig yn erbyn Creon ei hewyrth, y brenin. Antigone : Deall! ‘D oes gennych ddim namyn y gair hwnnw yn eich genau, bob un ohonoch chwi, er pan wyf fechan. ’R oedd raid deall nad oeddid i gyffwr a’r dwfr hardd rhedegog oer, am fod hwnnw yn gwlychu’r llechau, nac â’r pridd, am fod hwnnw yn maeddu’r wisg. ’R oedd raid deall nad oeddid i fwyta’r cwbl ar unwaith; rhoi’r cwbl sy gan un yn ei logell ar gyfer rhyw gardotyn y gellid taro wrtho. Rhedeg, rhedeg yn y gwynt nes disgyn i’r ddaear ac yfed pan ddeuai gwres, ac nid pan yn ei flysio, nac ymfeisio yn rhy fuan nac yn rhy hwyr, nid pan ddymuner. Deall! Deall yn wastadol. Myfi, ni fynnaf ddeall. Deallaf pan wyf hen. [Ymfwyneiddia] Os elwyf yn hen. Nid yrwan. … Ismene : Ni allaf gysgu. Y mae arnaf ofn yr ei di allan a cheisio ei gladdu er cynhared y dydd. Antigone, fy chwaer fach, yr ydyn ni oll yma o’th gwmpas – Hemon, Famaeth a finnau, a Pher dy ast fach … . Carwn di, ac yr ydyn fyw. Y mae arnon ni dy angen di, nyni. Y mae Polynices yn farw, ac nid ydyw yn dy garu. Bu yn wastadol yn ddieithryn inni, yn frawd drwg. Anghofia fo, Antigone, fel yr anghofiason ni yfo. Gad i’w gysgod caled grwydro hyd Dragwyddoldeb, heb garreg fedd iddo, canys dyna ddeddfiad Creon. Na heria yr hyn sy uwch dy alluoedd. Buost yn wastadol yn ddewr, ond yr wyt ti mor fechan, Antigone. Aros gyda ni. Na ddos yna heno, ymbiliaf arnat … … Y Famaeth : Fy ngwawdio yr wyt, felly? Gwyddost fy mod yn rhy hen. Tydi fu’r ddewisaf gennyf, er gwaethaf dy anian salw. Yr oedd dy chwaer yn fwynach, ond credwn mai tydi a’m carai. Os ceri fi, dylet ddweud y gwir wrthyf. Pam oedd dy wely yn oer pan ddeuthum i rhoi’r cwrlid drosot? … [Creon allan yn holi gwarchawdr] … Creon : … Da iawn. Traetha. Beth sy arnat ei ofn? Y Gwarchawdr : Yn ôl y rheolau fe ddylsid bod y dosbarth cynta. Yr wyf finnau wedi cael dosbarth cynta, ond nid wyf eto wedi fy nyrchafu. Dylwn gael fy nyrchafu erbyn mis Mehefin. Creon : Wyt ti yn mynd i siarad o’r diwedd? Os oes rhywbeth wedi digwydd, yna ’r ydych i gyd yn gyfrifol. Na ddyfala ddim mwy ynghylch pwy ddylai fod yma. Y Gwarchawdr : O’r gorau. Dyna ni, Arglwydd. Y gelain, fe’i gwylir eto! … y Wylfa Ddwy, y wytna … Creon [wedi synnu wrth a wêl] : Rhyddhewch y ferch ifanc yma! Beth ydyw hyn? Y Gwarchawdr : Y Warchodfa, Arglwydd Bennaeth. Deuthum gyda’r cymrodyr. Creon : Pwy werchyd y corff? Y Gwarchawdr : Galwyd am y Gollwng, Bennaeth. Creon : Dywedais wrthyt i’w gyrru hi’n ôl. Dywedais wrthyt i ddweud dim. Y Gwrachawdr : Ni ddywedais ddim, Arglwydd Bennaeth, ond pan atelid hon yma, meddylid y byddai angen i rywun ddyfod – ac ni thynnid am y cwta y tro yma, dewisid dyfod ni’n trioedd. Creon : Ynfytiaid!

ar Fangor – hanes coll

commanjack

Lloffion o Hanes Methodistiaeth Arfon – Dosbarth Bangor, W Hobley, Bangor (1924)

[Gan fod yr awdurdodau wedi penderfynu nad ydi Bangor i fod ddim mwy fel tref i bobl Bangor a Chymru, dichon fod rhywbeth fel hyn o ddiddordeb i rai]

Pont Borth ydi’r Bont ar Fenai i frodorion Bangor, erioed am wn i, a Lôn Borth y darn ffordd honno arweinia ati o’r ddinas – ffaith na fu gan osodwyr enwau lleodd Cyngor Gwynedd ddim diddordeb ynddi, mae’n amlwg. Mi wyddon ni oll am y pyllau tro cryfion o dan ac o boptu’r Bont. Naturiol i’r cyfaill Hobley feddwl am y Bont ac amdanyn nhwythau wrth feddwl am Fangor. Y ffyrnica ohonyn :

“Pwll ceris dyrys dryd,

Pwll embyd, pwll ymbyd,

Pella o’i go o’r pyllau i gyd.”

“Lloches demon” ydi Pwll Cerris yn ôl y cyfaill Hobley: “Heb ofal nid yw’n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef…

View original post 915 more words

Ysbaid Trugarol

GWASTRAFFWYD  Y  CYFLE  OLA, CYFLE “YR  YSBAID  TRUGAROL,” PAN BLEIDLEISIODD  Y  CYMRY  CYMRAEG  DROS  LOEGR  YN  LLE  CYMRU  YN  YR  ETHOLIAD  CYFFREDINOL  DIWEDDAR.  DO?  Mi  ddylai  pawb  sy  am  weld,  rhaid  inni  ddweud  adsefydlu  bellach  yn  hytrach  na  pharhâd  yn  dilyn  dinistr  y  blynyddoedd  diwethaf,   cenedligrwydd  Cymru   ddisgyn  ar  eu  gliniau  a  diolch  i  Dduw  am  y  rhai  yn  yr  Alban  na  fynnodd  droi  Ynys  Prydain  yn  England  and  Scotland  yn  ddiweddar.  Pe  bai’r  bleidlais  wedi  bod  fel  arall,  ni  fyddai  dim  i’w  ddisgwyl  ond  llyncu  Cymru  o’r diwedd  ben  a  thîn  gan  yr  hen  goncwerwr  o’r  Oesau  Canol.  Gweld  yr  wythnos  wedyn  Pawb  a’i  Farn,  a  phawb  yn  gyd-gytûn  braf  o  boptu’r  llywydd  fod  y  nesa  peth  i  hunan  lywodraeth  ar  y  ffordd  i  Gymru!  –  hyd  yn  oed  o  du  o  leia  un  o  Saeson  gorau’r  Cymry  Cymraeg  ymysg  gwesteion  y  ford  “drafod”-  a  hynny’n  ganmoliaeth  dra  uchel  gan  fod  cyn  gymaint  ohonyn.  Nid  y  concwerwr  ydyw’r  gelyn  bellach,  ond  hurtni  y  rhai  sy  fwya  chwannog  i   gyfeierio  atyn  nhw  eu  hunain  fel  y  Cymry  Cymraeg.

ar Fangor – hanes coll

Lloffion o Hanes Methodistiaeth Arfon – Dosbarth Bangor, W Hobley, Bangor (1924)

[Gan fod yr awdurdodau wedi penderfynu nad ydi Bangor i fod ddim mwy fel tref i bobl Bangor a Chymru, dichon fod rhywbeth fel hyn o ddiddordeb i rai]

Pont Borth ydi’r Bont ar Fenai i frodorion Bangor, erioed am wn i, a Lôn Borth y darn ffordd honno arweinia ati o’r ddinas – ffaith na fu gan osodwyr enwau lleodd Cyngor Gwynedd ddim diddordeb ynddi, mae’n amlwg. Mi wyddon ni oll am y pyllau tro cryfion o dan ac o boptu’r Bont. Naturiol i’r cyfaill Hobley feddwl am y Bont ac amdanyn nhwythau wrth feddwl am Fangor. Y ffyrnica ohonyn :

“Pwll ceris dyrys dryd,

Pwll embyd, pwll ymbyd,

Pella o’i go o’r pyllau i gyd.”

“Lloches demon” ydi Pwll Cerris yn ôl y cyfaill Hobley: “Heb ofal nid yw’n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef pan gyferfydd y ddau lanw o ddau ben y Fenai. Ei loches sydd rhwng y ddwy bont. Lle gwylia’r angel, yno llochesa’ r demon. Yn ol Swedenborg, fe gerdd yr angel drwg o dan y dwfr â’i sawdl ar y wyneb, yn wrthdroed i’r angel da oddiarnodd.”

Yr oedd ar feddwl bardd arall hefyd :

Cyrchiad mawr dyniad môr donnen ffyrnig,

Uffernol i fadau;

Ceris bwll, brith croesbwll brau,

Hallt cryg yn hollti creigiau. Gruffydd Edwards.

Cyn cynllun Telford i godi pont dros Fenai bu eisoes “ryw ymwrwst ar ymenydd Robin Ddu yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: dwy flynedd cyn Aflonydd Pont ar Fenai Fydd”, meddai. “Pa beth oedd yr Aflonydd a wŷs?”, ymhola – nis gŵyr ac ni fedr ddyfalu. Dechreuwyd y gwaith yn 1810 a’i orffen erbyn 1826. Os gwir y broffwydoliaeth, ym 1828 y digwyddodd yr Aflonydd. Traethed yr hanesydd. Dywed y cyfaill wrthym fod Cerbyd Post Caergybi yn croesi’r bont newydd sbon danlli grai ar Ionawr 30 ar ei “agoriad bythgofiadwy … a bys y gloch yn union ar bum munud ar hugain i ddau yn y prynhawn, dyna glec chwip Dafydd Dafis, gyriedydd Post Caergybi yn peri i’r march garlamu; a chwibaniad uchel y gwyntoedd, yr hir gofir amdano, sef clec chwip Angel y Fenai, yn cydateb, gan gyhoeddi cydrhyngddynt fod y fantol yn dechrau troi o blaid Dinas Bangor ac yn erbyn Prif Gaer Arfon. Oddiarnodd ac oddiuchod y penderfynir pa fodd try y chwarae. O fewn llai na dwy filltir yr oeddis oddiwrth y ddinas tra’r oedd saith oddiyno i’r brif dref. Yn y fel hyn y cysylltwyd Môn yn agosach â Bangor [na Chaernarfon] fel tref fasnach. Ar ôl hynny y dechreuodd y dylanwadau mwy ysbrydol dddylifo tua Dinas Ffawd.”

Ar y cyfan, fel y buasai’n well gan yr actor WC Fields, yn ôl ei gyffes gyhoeddus, fod yn Pittsburg na’r lle poeth arall, meiddiaf ddweud mai gwell fuasai gynnon ninnau fod yn Ninas Ffawd o hyd nag yn Bangor City of Learning o ddyfais estron a Chyngor Gwynedd.

Dyma eisteddfod Bangor yn 1832 yn cynnig gwobr am gân i’r rhyfeddod newydd. Cynigiodd Dewi Wyn y pennill a aethai wedyn yn dra hysbys, ac a barhaodd felly nes yr ysbeilid y wlad o’i Chymraeg:

Uchelgaer uwch y weilgi, gyrr y byd

Ei gerbydau drosti:

Chwithau, holl longau’r lli,

Ewch o dan ei chadwyni .

Llai poblogaidd oedd pennill Eryron Gwyllt Walia, o bosib, ond llawn cystal, os caiff un nad ydyw’n honni gwybodaeth am grefft y bardd, ond sydd, gobeithio, yn medru gwerthfawrogi ei ddawn, hawl i fynegi barn:

Mawrfri campwri pen, – bwa yn nef

Uwchben afon frigwen;

Aerwy abrwysgl ar wybren,

Cenglau wnaed yn cynghloi nen.

Heblaw ei rinweddau barddonol, mae’r pennill yn cynnig gwers yng ngeirfa goll y Gymraeg – coll, ond anhepgor serch hynny, os ydyw hi i fod yn rhagor nag iaith degan, fel y mae wedi mynd erbyn hyn o ymyrraeth pobl golegol anaddfed anghymwys : aerwy abrwysgl, cenglau yn cynghloi. Mae’r sawl gerddodd dros y bont neu a aeth drosti mewn cerbyd wedi gweld y pethau hyn yn ei gwneuthuriad . Genhedlaeth yn ddiweddarach, yn 1847, dyma’r ffordd haearn yn cyrraedd Bangor, a phont Stevenson ar ei thread erbyn 1850 i’r cledrau gael croesi’r Fenai – “Pont Frydain,” chwedl yr awdur, “oblegid dodi sylfaen un o’i cholofnau ar Graig Brytania, sef graig fechan a elwid felly.” Enw arall ar yr un bont ydyw’r Bont Haearn, wrth reswm. Ac y mae’n wir bob gair, fel y gwelir o fynd yno ac edrych. Dyfynna bennill Dafydd Ddu yn y Greal am 1792 [1805]:

Codais, ymolchais ym Môn, cyn naw

Awr ciniewa’n Nghaerlleon,

Pryd gosper yn y Werddon,

Prynhawn wrth dân mawn ym Môn.

Mae’r cyfaill Hobley yn arfer y gair “eildrem” yn hollol ddiymwybodol am weledigaeth y bardd, a mynegi’r farn mai hwn oedd gwir awdur rhai o’r dyfaliadau a briodolid, yr adeg honno beth bynnag, i Robyn Ddu [o Hiraddug] y bymthegfed ganrif. Traethed a wŷr yn amgen.

Yr oedd Bangor eisoes “ymlaen mewn gwareiddiad ac mewn crefydd”, yn ôl y cyfaill, ond nid yn ddifai chwaith. Yr oedd gwŷr Llanllechid ac Aber yn dŵad at ei gilydd ar wylmabsant a Chalan i ymladd â’i gilydd, ond nid oedd y ddinas “yn lân oddiwrth y drygau hyn.” Dyfynna o dystiolaeth Hanes Methodistiaeth Bangor Hugh Roberts, lle dywed yr awdur fod lliaws o’i thrigolion yn adrodd y weddi ganlynol deirgwaith bob nos cyn cysgu (a phwy a wâd dlysni a thynerwch ei Chatholigrwydd, nid y Methodus o Hobley, bid sicr :

Breuddwyd Mair

Mam wen Fair, wyt ti yn cysgu?

Nac wyf, f’annwyl, ‘rwy’n huno a breuddwydio.

Mam wen Fair, ai da yw dy freuddwyd?

Gweled dy ymlid a’th erlid a’th ddal, A’th roi ar y Groes, lle pur loesol,

A dyn du dall yn dy bigo â’r waewffon,

A’th archoll yn hyll a’th dwyllo. Mam wen Fair, da yw dy freuddwyd:

Y sawl a’i medro ac a’i dwedo

Deirgawaith bob nos cyn huno;

Breuddwyd drwg ni wna niwed iddo;

A thir uffern byth nis cerddo.

Yn enw Duw, i’m gwely’r af’

Duw a fo’n feddyg i’r iach ac i’r claf;

Mi orweddaf ar fy hyd;

Duw, derbyn f’enaid pan elwyf o’r byd

Duw yn y ffenestr, Duw yn y drws,

Duw ym mhob man lle rhoddwyf fy mhwys;duw uwchben y tŷ a’r teulu,

Fel y gallwyf yn ddienbyd gysgu.

Sonia’r cyfaill wedyn, yn ddiddorol iawn, am yr hen gaer : ar ben y

Penmaenmawr … (i’w barhau?)