Beier ni’r bobol gymraeg gyffredin

commanjack

‘D oes dim byd mwy naturiol mewn iaith iach cenedl iach na phobl gyffredin yn sgrifennu at ffigurau cyhoeddus yn yr iaith honno yn gofyn i gyd genedl mewn sefyllfa mwy manteisiol na nhw eu hunain am ryw wybodaeth neu’i gilydd. Câi pobol fel OM Edwards, Michael D Jones, Emrys ap Iwan, y Proffeswr Rhys ac eraill lythyrau o’r fath. Mewn ysgrif yn ei iaith ei hun i’w bobl ei hyn, mae’r Celteigydd mawr, yr Athro Loth ers talwm, yn sôn am bobl yn ei holi sut rai oedd y Galiaid o ran pryd a gwedd. Ateb M. le prof oedd: Edrychwch yn y drych.

Gellid rhoi’r un ateb i’r rhai sy mor chwannog i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel Cymry Cymraeg, pan edrychan o’u cwmpas yn ddryslyd am rai i feio am y pethau a wnaethan nhw eu hunain i Gymru a’r Gymraeg o ddrwg ymyrraeth. Y bobl…

View original post 175 more words

Leave a comment