Beier ni’r bobol gymraeg gyffredin

‘D oes dim byd mwy naturiol mewn iaith iach cenedl iach na phobl gyffredin yn sgrifennu at ffigurau cyhoeddus yn yr iaith honno yn gofyn i gyd genedl mewn sefyllfa mwy manteisiol na nhw eu hunain am ryw wybodaeth neu’i gilydd. Câi pobol fel OM Edwards, Michael D Jones, Emrys ap Iwan, y Proffeswr Rhys ac eraill lythyrau o’r fath. Mewn ysgrif yn ei iaith ei hun i’w bobl ei hyn, mae’r Celteigydd mawr, yr Athro Loth ers talwm, yn sôn am bobl yn ei holi sut rai oedd y Galiaid o ran pryd a gwedd. Ateb M. le prof oedd: Edrychwch yn y drych.

Gellid rhoi’r un ateb i’r rhai sy mor chwannog i gyfeirio atyn nhw eu hunain fel Cymry Cymraeg, pan edrychan o’u cwmpas yn ddryslyd am rai i feio am y pethau a wnaethan nhw eu hunain i Gymru a’r Gymraeg o ddrwg ymyrraeth. Y bobl Gymraeg gyffredin gaiff y bai bob cynnig. Hwn yma yn beio pobol tre gyfan, tre o dan ormes ” sefydliad addysg” estron, ddarparod fywiolaeth oes, nid ansylweddol, i’r Gymry Cymraeg breintiedig ar draul pobl Gymraeg gyffredin frodorol y lle. Gwelais erthygl gan un arall, ynfytyn iawn y tro hwn, real un, wedi gweld sôn am Eng-er-lund yn ei bapur newydd Saesneg (papurau ar gyfer y Saeson wrth reswm ydyw’r rhain – ond ” y papurau cenedlaethol” ydyw eu observers a’u telegraphs a’u expresses a’u suns i’r rhain). ‘R oedd y pen bach yma, addolwr pob peth Seisnig a Gwyddelig, yn ceisio cymhwyso at bobl Gymraeg gyffredin y dosbarth pwl israddol portreedig gan Saeson eraill o’u pobol eu hunain yn un o’u papurau newydd eu hunain fel rhai yn clertian ar hyd y llawr eu dyrnau mawr blewog yn hongian o freichiau mwncwnaidd mawr. Chwarae teg hefyd, er mwyn dangos pa mor llawn dop dyn o addysg a diwylliant oedd o, ac yn braw o’i anibynniaeth meddwl, ailnewidiodd eto sillafiad y ffurf wawdlyd Eng-er-lund i Ingyrlynd!

One thought on “Beier ni’r bobol gymraeg gyffredin

Leave a comment